Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

16th January 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm iaith yr wythnos yw 'Roeddwn i ....'

* Bydd bob dosbarth o'r derbyn i flwyddyn 6 yn ymweld gyda Sainsbury's yr wythnos hon. *

Dydd Llun:
Diwrnod Crefyddau'r Byd: Bydd y disgyblion yn dathlu gwahanol grefyddau'r byd heddiw.
Taith i Sainsbury's - bydd y dosbarthiadau canlynol yn mynd i Sainsbury's heddiw:
Miss Thomas / Miss Emery / Miss Westphal / Miss Passmore
Dim Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 - bydd hwn yn ail ddechrau wythnos nesaf.

Dydd Mawrth:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn treulio'r dydd yng Ngwynllyw heddiw - diwrnod creadigol.
(Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio gyda nhw os gwelwch yn dda.)
Taith i Sainsbury's - bydd y dosbarthiadau canlynol yn mynd i Sainsbury's heddiw:
Miss Sheppeard / Miss Hughes / Miss Williams / Miss Broad
Clwb pêl-droed tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.

Dydd Mercher:
Taith i Sainsbury's - bydd y dosbarthiadau canlynol yn mynd i Sainsbury's heddiw:
Miss Mullane / Mrs Dalgleish / Mr Price / Mr Bridson
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Sesiynau yoga ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 4, 5 a 6.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Bydd y dosbarthiadau canlynol yn mynd i Gaerdydd ar daith heddiw:
Miss Hughes / Miss Emery / Miss Sheppeard / Mrs Dalgleish
(Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio os gwelwch yn dda.)
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar ôl ysgol tan 4:30.
Disgo Santes Dwynwen y Gymdeithas Rieni rhwng 6 a 7. £1 y plentyn. Croeso cynnes i bawb.

Dydd Gwener:
Gweithdy Batik i ddosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr