Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

9th January 2020

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Bydd clybiau ar ôl ysgol yn ail ddechrau yr wythnos hon *

Dydd Llun:
Gwasanaeth ysgol gyfan gan gwmni 'Kiddy Cook' ar sut i gyrraedd 5 y dydd.
Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn derbyn gwers goginio heddiw gan gwmni 'Kiddy Cook'. Bydd y disgyblion yn coginio cannelloni llysiau.
(Yn anffodus, bydd y rheini sydd heb ddychwelyd y slipiau caniatâd methu cymryd rhan yn y gweithdy.)
Dim Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 - bydd hwn yn ail ddechrau ar Ionawr 27ain.

Dydd Mawrth:
Bydd disgyblion blynyddoedd 2, 3 a 4 yn derbyn gwers goginio heddiw gan gwmni 'Kiddy Cook'. Bydd y disgyblion yn coginio cannelloni llysiau.
(Yn anffodus, bydd y rheini sydd heb ddychwelyd y slipiau caniatâd methu cymryd rhan yn y gweithdy.)
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.

Dydd Mercher:
Gwasanaeth ysgol gyfan gan 'Dogs Trust'.
Bydd disgyblion ym mlynyddoedd 2, 3 a 4 yn derbyn gweithdy ar sut i fod yn berchennog cyfrifol heddiw.
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Sesiynau yoga ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 4, 5 a 6.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:
Bydd y disgyblion yn cymryd rhan yn ymgyrch 'Ionawr Iachus' yr Urdd heddiw. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff os ydynt yn dymuno.
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr