Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

19th December 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos gyntaf yn Ionawr yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *

Dydd Llun:
* Does dim ysgol i'r disgyblion heddiw - diwrnod hyfforddiant mewn swydd i'r staff. *

Dydd Mawrth:
Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol heddiw.

Diwrnod Sbardun: Bydd y disgyblion yn cael eu cyflwyno i'n thema newydd heddiw sef 'Bwydigedig'. Bydd y disgyblion yn treulio amser ym mhob dosbarth yn dysgu am y grwpiau bwyd gwahanol.

Dydd Mercher:

Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.

Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.

Sesiynau yoga ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen.

* Prynhawn Lles: Y thema ar gyfer ein prynhawn lles heddiw yw 'hunan ofal', gan ganolbwyntio ar frwsio dannedd. *

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.
Bydd cynrychiolydd o 'Cwmni Gwen' (Design to Smile) yn dod i gynnal gweithdy gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 heddiw.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr