Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

12th December 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *

Patrwm iaith yr wythnos hon yw i ddefnyddio 'ie' a 'nage' i ateb cwestiynau.

Dydd Llun:
* Dim Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3. *

Dydd Mawrth:
Sesiynau Ffa La La ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 a 3.

Dydd Mercher:

Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
*Dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal. *

Bydd cinio Nadolig yn cael ei weini fel yr opsiwn cinio poeth heddiw.

Cyngerdd Nadolig Cyfnod Allweddol 2:

10yb - dosbarthiadau Miss Mullane, Miss Westphal a Miss Williams.
2yp - dosbarthiadau Miss Broad, Mr Broad, Miss Passmore a Mr Bridson.

Dydd Iau:
Sesiynau Ffa La La ar gyfer plant y feithrin - blwyddyn 1.

Parti Nadolig: Bydd ‘bwyd parti’ yn lle y dewis arferol o ginio poeth neu stondin salad a’r gost fydd £2.50
y disgybl. (Gall y disgyblion wisgo dillad parti i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno.)

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.
Diwrnod ola'r tymor - bydd yr ysgol yn gorffen ar yr amser arferol.

Gobeithio y cewch chi wyliau hyfryd. Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth, Ionawr 7fed.

Nadolig Llawen!

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr