Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

5th December 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Dyma'r wythnos olaf ar gyfer clybiau ar ôl ysgol, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *

Patrwm iaith yr wythnos hon yw i ddefnyddio 'oedd' a 'roedd' yn gywir.

Dydd Llun:
Sesiynau Ffa La La ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 a 3.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Sesiynau Sbectrwm ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 6.
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Emery tan 4:30. (£1)

Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.

Cyngerdd Nadolig y Cyfnod Sylfaen
10yb - y feithrin, Miss Hughes a Miss Emery
2yp - y feithrin, Miss Sheppeard, Mrs Dalgleish a Miss Thomas.

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Sesiynau Ffa La La ar gyfer plant y feithrin - blwyddyn 1.
Bydd y côr yn perfformio yn Sainsbury's, Cwmbrân ar ôl ysgol.
(Bydd angen eu casglu o Sainsbury's am 4:30 os gwelwch yn dda. Gwisg y côr.)

Dydd Gwener:
Diwrnod gwisg anffurfiol / siwmperi Nadoligaidd:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol mewn gwisg anffurfiol / siwmperi Nadoligaidd os ydynt yn dymuno. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag at y banc bwyd lleol. (Gweler y rhestr o nwyddau mewn llythyr blaenorol.)
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr