Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

28th November 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm iaith yr wythnos hon yw i ddefnyddio 'do' a 'naddo' yn gywir.

Dydd Llun:
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Bydd disgyblion dosbarth Mr Price yn mynd i'r sinema bore 'ma i weld y ffilm 'Frozen 2' gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Tachwedd.
(Bydd angen gwisg ysgol a chot law ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Emery tan 4:30. (£1)

Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.
Noson Ffilm y Gymdeithas Rieni ac Athrawon.
(6-8pm yn neuadd yr ysgol. £3 y plentyn am y ffilm, diod a phopcorn.)

Dydd Iau:
Sesiynau Sbectrwm ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 6.
Sesiynau Ffa La La ar gyfer plant y feithrin - blwyddyn 1.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.
Ffair Nadolig yn neuadd yr ysgol o 3:30 ymlaen. Gobeithiwn eich gweld chi yno.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr