Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

21st November 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm iaith yr wythnos hon yw 'Beth wnest ti?'

* Bydd Ffair Lyfrau Cymraeg ymlaen yn neuadd yr ysgol bob nos rhwng 3:30 a 4. *

Dydd Llun:
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Farnais Fflworid i’r Cyfnod Sylfaen.
Sioe Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Emery tan 4:30. (£1)

Dydd Mercher:
Farnais Fflworid i’r Cyfnod Sylfaen.
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Sesiynau ioga ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4 i 6.
*Prynhawn lles *
Y thema ar gyfer ein prynhawn lles yr wythnos hon yw pwysigrwydd cwsg.
(Am fwy o wybodaeth am hwn, cliciwch ar y linc isod.)
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Sesiynau Ffa La La ar gyfer plant y feithrin - blwyddyn 1.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.
Noson Ffilm y Gymdeithas Rieni ac Athrawon.
(6-8pm yn neuadd yr ysgol. £3 y plentyn am y ffilm, diod a phopcorn.)

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr