Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

14th November 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw du a gwyn.
Patrwm iaith yr wythnos hon yw berfau cryno e.e. Cerddais i / Rhedais i ayyb.

* Wythnos Beicio'n Ddiogel. *

Dydd Llun:
Taith blynyddoedd 3 a 4 i Gaerdydd.
(Bydd angen i'r disgyblion ddod â phecyn cinio i'r ysgol heddiw os gwelwch yn dda a gwisgo gwisg ysgol.)
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Emery tan 4:30. (£1)

Dydd Mercher:
Wheelie Wednesday: Rydym yn annog y disgyblion ddod i'r ysgol drwy gerdded neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Sesiynau ioga ar gyfer y disgyblion o'r derbyn i flwyddyn 3/4.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Bydd y côr yn ffilmio heddiw - bydd angen gwisg y côr a dillad cynnes ar gyfer y prynhawn (cot, sgarff ac het os gwelwch yn dda.)
Gala nofio'r Urdd yn Stadiwm Pontypwl.
(Mae'r rheiny sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Gwener:
* Diwrnod Gwisgo Dillad Llachar. * Gall y disgyblion wisgo dillad llachar i'r ysgol os ydynt yn dymuno.
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr