Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

7th November 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw brown.
Patrwm iaith yr wythnos hon yw 'Ble mae ....? Mae ...... '

* Wythnos Gwrth-fwlio *

Dydd Llun:
* Dyddiad cau derbyniadau ar-lein i ysgolion uwchradd - rhieni a gwarchodwyr blwyddyn 6. *
Dr Bike: Bydd Dr Bike o Sustrans Cymru yma er mwyn trwsio unrhyw broblemau gyda beiciau'r disgyblion - gallwch ddod â'r beiciau i'r ysgol yn y bore.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Emery tan 4:30. (£1)

Dydd Mercher:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Y thema ar gyfer prynhawn lles heddiw yw gwrth-fwlio.
Bydd PC Smith yn cynnal gweithdai gwrth-fwlio gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4 prynhawn 'ma.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
* Diwrnod Type Onesie: Byddwn yn codi arian ar gyfer elusen JDRF heddiw, elusen sy'n ymchwilio mewn i ddiabetes math 1. Gall y disgyblion wisgo pyjamas / onesie i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno. *
Sesiynau creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 5.

Dydd Gwener:
* Plant Mewn Angen: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol mewn gwisg anffurfiol heddiw os ydynt yn dymuno. Byddwn yn casglu arian ar gyfer Plant Mewn Angen. (Bydd yr arian sy'n cael ei gasglu heddiw yn cael ei rannu rhwng Plant Mewn Angen a JDRF.)
Bydd grwp dawnsio o Indonesia yn dod i'r ysgol i berfformio heddiw.
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr