Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

23rd October 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos ar ôl hanner tymor yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw porffor.
Patrwm iaith yr wythnos hon yw 'Ble mae ....? Mae ...... '

Dydd Llun:
Ysgol yn ail ddechrau ar gyfer y disgyblion.
Sioe ar hanes y Senedd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Dim Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 - bydd y clwb yn ail ddechrau wythnos nesaf.

Dydd Mawrth:
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Hughes tan 4:30. (£1)
(Dyma'r un olaf ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.)

Dydd Mercher:
Sesiynau Sbectrwm ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 6.
(Gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref')
Jambori yr Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 - bydd y disgyblion yn gadael am 9:45.
(Bydd angen pecyn cinio a gwisg ysgol ar y disgyblion os gwelwch yn dda.)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Cystadleuaeth bêl-droed yr Urdd yn Stadiwm Cwmbrân.
(Mae llythyron wedi cael eu danfon adref.)
Sesiynau creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr