Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

17th October 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw pinc.
Patrwm iaith yr wythnos hon yw 'Faint o ..... sydd gyda ti? Mae .... gyda fi.'

Dydd Llun:
Clwb yr Urdd ar gyfer plant blynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Hughes tan 4:30. (£1)
Cyfarfod gyda phennaeth Gwynllyw, Miss Elan Bolton, yn neuadd yr ysgol am 3:30 heddiw - croeso cynnes i bawb.

Dydd Mercher:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.
Disgo'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon - 6 o'r gloch yn neuadd yr ysgol. £1 y plentyn.

Dydd Iau:
Gwasanaeth Diolchgarwch: Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gwasanaeth diolchgarwch heddiw.
* Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o duniau / nwyddau ymolchi ar gyfer y banc bwyd lleol os gwelwch yn dda. *
Cystadleuaeth bel-droed yr Urdd yn Stadiwm Cwmbran. (Llythyr i ddilyn.)
Sesiynau creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Gwener:
* Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd - dim ysgol i'r disgyblion. *

* Gwyliau hanner tymor. *
Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Tachwedd 4ydd.

Diolch yn fawr.


Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr