Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

10th October 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw melyn.
Patrwm iaith yr wythnos hon yw 'Fy hoff..... yw .... achos .....'

Dydd Llun:
Diwrnod sbardun Cyfnod Allweddol 2 - bydd y disgyblion yn cael eu cyflwyno i'r thema yn ystod y dydd heddiw wrth ymweld gyda'r dosbarthiadau gwahanol.
Clwb yr Urdd ar gyfer plant blynyddoedd 2 a 3 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Diwrnod Shwmae Su'mae - dechreuwch bob sgwrs yn y Gymraeg heddiw.
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Hughes tan 4:30. (£1)

Dydd Mercher:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Taith y côr i weld 'Eye of the Storm' yn Theatr Glan yr Afon.
(Gofynnwn i'r disgyblion ddod yn eu gwisg ysgol a byddant yn cael cinio yn yr ysgol fel arfer.)
Gwyl rygbi Torfaen - llythyr i ddilyn.
Sesiynau creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Gwener:
Gall plant y feithrin wisgo dillad melyn i'r ysgol heddiw.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr