Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

3rd October 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw gwyrdd.
Patrwm iaith yr wythnos hon yw 'Wyt ti'n hoffi ....? Ydw / Nac ydw'.

Dydd Llun:
Clwb yr Urdd ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30.

Dydd Mawrth:
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Hughes tan 4:30. (£1)

Dydd Mercher:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
* Diwrnod Iechyd Meddwl: Gall y disgyblion wisgo dillad / eitem melyn i’r ysgol heddiw. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 tuag at elusen Young Minds os gwelwch yn dda. *
Sesiynau creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Gwener:
* Bydd lluniau unigol a theulu yn cael eu cymryd o’r disgyblion ddydd Gwener. Os hoffech i lun gael ei gymryd gyda brodyr neu chwiorydd sydd ddim yn yr ysgol, gofynnwn i chi ddod erbyn 08:30 er mwyn eu tynnu wedyn. *
(Gan fod lluniau ysgol heddiw, dylai plant y feithrin wisgo eu gwisg ysgol i'r ysgol fel arfer heddiw.)
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Miss Hughes.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr