Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

26th September 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

* Mae clybiau ar ôl ysgol yn dechrau yr wythnos hon. *

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw oren.

Dydd Llun:
Prynhawn agored y feithrin - 2 o'r gloch ymlaen.
Croeso cynnes i bawb.
Clwb yr Urdd ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30.
(Mae llythyr wedi mynd adref am y clwb hwn yn barod.)

Dydd Mawrth:
Gweithdy tywydd disgyblion blwyddyn 6.
Clwb rygbi tan 4:30 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 .
Clwb coginio blwyddyn 2 Miss Hughes tan 4:30. (£1)
(Mae llythyr wedi'i ddanfon adref am hwn.)

Dydd Mercher:
Gweithdy tywydd disgyblion blwyddyn 5.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 dosbarth Miss Westphal.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Iau:
Prawf clyw plant blwyddyn 1.
Sesiynau creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Ymarfer côr ar gyfer disgyblion CA2 tan 4:30.

Dydd Gwener:
*Gall plant y feithrin wisgo dillad oren i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno.*
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Miss Hughes.
Taith blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog.
Byddwn yn gadael yr ysgol tua 10:15. Gall y disgyblion hyn wisgo dillad anffurfiol i'r ysgol.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr