Trefniadau ar gyfer mis Medi:

Trefniadau ar gyfer mis Medi:

25th July 2019

Dyma rai dyddiadau pwysig i'w nodi ar gyfer mis Medi:

Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i'r disgyblion ar ddydd Mercher, Medi'r 4ydd.
(Ceir diwrnodau hyfforddiant i staff ar y dydd Llun a'r dydd Mawrth.)

Byddwn hefyd yn dathlu Diwrnod Roald Dahl ddydd Gwener, Medi'r 13eg. Gall y disgyblion wisgo lan fel cymeriad o un o lyfrau Roald Dahl ar y diwrnod hwn os ydynt yn dymuno.

Dyma rai dyddiadau pwysig eraill ar gyfer y tymor cyntaf:

Diwedd yr hanner tymor: Dydd Gwener, Hydref 25ain.
Diwedd y tymor: Dydd Gwener, Rhagfyr 20fed.

Gobeithio y byddwch chi gyd yn cael haf hyfryd. Edrychwn ymlaen at groesawu'r disgyblion yn ôl i'r ysgol ym mis Medi.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr