Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

28th June 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Mawrth:

** Bydd disgyblion dosbarth Miss Westphal yn mynd i'r sinema bore 'ma gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mehefin. **
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 2. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

** Gwasanaeth disgyblion blynyddoedd 1 a 2 **
09:30: Dosbarthiadau Miss Hughes a Mrs Dalgleish.
11:00: Dosbarthiadau Miss Sheppeard a Miss Baker.

Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdai gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 bore 'ma.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.

** Prynhawn Lles: Thema'r prynhawn lles y pythefnos hwn yw 'Pobl sy'n ein helpu' **
Bydd nifer fawr o bobl yn dod mewn i gynnal gweithdai gyda'r dosbarthiadau prynhawn 'ma.

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Iau:

Bydd y disgyblion yn treulio sesiwn yn eu dosbarthiadau newydd bore 'ma.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Bydd rhai dosbarthiadau y Cyfnod Sylfaen yn dathlu pen-blwydd CYW yn 10 prynhawn 'ma.
Clwb natur yn ystod amser cinio.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gweithdy adeiladu pontydd ar gyfer merched blynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Gwers beicio diogel disgyblion blwyddyn 6 yn ystod oriau ysgol.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
1:30: Bydd rhai o ddisgyblion blwyddyn 7 yn dod i gynnal sesiwn holi ac ateb gyda disgyblion blwyddyn 6 prynhawn 'ma.
Bydd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn gwerthu hufen iâ ar iard Cyfnod Allweddol 2 ar ddiwedd y dydd. (50c yr un)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr