Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

22nd June 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Band yr wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw 'Candelas'. Bydd y disgyblion yn gwrando ar ganeuon gwahanol cyn ein gig ddydd Iau.

Patrwm iaith yr wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Ar y penwythnos, byddaf i yn ....'

Dydd Llun:

Gweithdai clocsio gyda Tudur Phillips.
Bydd Tudur yn cynnal gweithdai clocsio gyda disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Taith diwedd blwyddyn y dosbarth derbyn i Gefn Mably.
(Bydd angen i'r plant wisgo'r wisg ysgol a dod â phecyn cinio gyda nhw os gwelwch yn dda.)

Dydd Mawrth:

Taith diwedd blwyddyn blynyddoedd 1 a 2 i Weston Seaquarium a'r traeth.
(Bydd angen i'r plant wisgo'r wisg ysgol a dod â phecyn cinio a digon o eli haul gyda nhw os gwelwch yn dda.)
Taith diwedd blwyddyn blynyddoedd 5 a 6 i Gaerdydd - sinema a Boulders.
(Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio gyda nhw os gwelwch yn dda.)
** Cyfarfod i rieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. ** (6 - 7:30)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 2. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

Gwasanaeth disgyblion blwyddyn 3 - 09:30 yn neuadd yr ysgol.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Bydd pedwar aelod o'r Eco-bwyllgor yn treulio'r diwrnod yn Two Locks.
(Bydd angen i'r disgyblion wisgo dillad addas a dod â phecyn cinio, digon o ddwr ac eli haul gyda nhw os gwelwch yn dda.)
** Cyfarfod i rieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 5 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. **
Sesiwn 1: 2-3:30 / Sesiwn 2: 4 -6.
** Dim Clwb yr Urdd **
Gweithdy flogio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 gyda Menter Iaith. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

**Taith diwedd blwyddyn plant y feithrin i Cheeky Monkeys. **
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Clwb natur yn ystod amser cinio.
Gwers beicio diogel disgyblion blwyddyn 6 yn ystod oriau ysgol.
Gig Siarter Iaith, y Candelas, at gyfer disgyblion CA2. Canolfan Hamdden Pontypwl rhwng 1 a 2.
(Gwisg ysgol os gwelwch yn dda)
** Dim clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30 gan fod Mabolgampau'r Urdd. **
Mabolgampau'r Urdd yn Stadiwm Cwmbrân. 4:30 - 5:45.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)

Dydd Gwener:

** Diwrnod gwisg anffurfiol: Gall y disgyblion wisgo gwisg anffurfiol i'r ysgol heddiw. Mae aelodau'r G.Rh.A yn gofyn yn garedig am gyfraniad tuag at y Ffair Haf - gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref'.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish.
Gweithdy broagod i ddisgyblion blwyddyn 4.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
Ffair Haf i 3:30 ymlaen. Dewch i gefnogi!

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr