Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

14th June 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Wythnos Rifedd: Ein thema ar gyfer yr wythnos yw Cwpan y Byd. **

Band yr wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw 'Candelas'. Bydd y disgyblion yn gwrando ar ganeuon gwahanol cyn ein gig mewn ychydig o wythnosau.

Patrwm iaith yr wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Oes .... gyda ti?' Oes / Nac oes.

Dydd Llun:
Llun ysgol: Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod y disgyblion yn dod i'r ysgol yn eu gwisg ysgol lawn os gwelwch yn dda.
Sesiynau pêl-droed yn y prynhawn: Dosbarth Miss Broad a Miss Westphal. Bydd angen cit ymarfer corff ar y disgyblion os gwelwch yn dda.

Dydd Mawrth:

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw am ddiwrnod o wersi heddiw. (Bydd angen iddynt ddod â gwisg ysgol, pecyn cinio ac esgidiau ymarfer corff os gwelwch yn dda.)
Sesiynau pêl-droed yn y prynhawn: Dosbarth Mr Dobson a Miss Heledd Williams. Bydd angen cit ymarfer corff ar y disgyblion os gwelwch yn dda.
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 2. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

Gwasanaeth disgyblion blwyddyn 4 - 09:30 yn neuadd yr ysgol.
Sesiynau Taekwondo drwy'r dydd yn neuadd yr ysgol.
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Sesiynau pêl-droed yn y prynhawn: Dosbarth Miss Passmore, Mr Bridson a Mrs Haman. Bydd angen cit ymarfer corff ar y disgyblion os gwelwch yn dda.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Gweithdy flogio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 gyda Menter Iaith. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

** Taith diwedd blwyddyn blynyddoedd 3 a 4 i Gaerdydd - Amgueddfa Caerdydd a'r Theatr Newydd. **
(Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a bydd angen pecyn cinio ar bob disgybl os gwelwch yn dda.)
Dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Clwb natur yn ystod amser cinio.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Gwers beicio diogel disgyblion blwyddyn 6 yn ystod oriau ysgol.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
** Bydd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd. (50c yr un) **

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr