Prynhawn Lles:

Prynhawn Lles:

14th June 2018

Ein thema ar gyfer prynhawn lles yr wythnos hon oedd bwyta'n iach.

Ein thema ar gyfer yr wythnos hon oedd bwyta'n iach, i gyd-fynd gyda Wythnos Genedlaethol Bwyta'n Iach Prydain. Croesawon ni Alison Dally mewn i gynnal gweithdy gyda blwyddyn 5 a daeth cwmni Kiddy Cook i gynnal gweithdy coginio gyda disgyblion blwyddyn 3.

Dysgodd y disgyblion am y grwpiau gwahanol o fwyd a faint o bob un sydd angen arnom bob dydd. Aethon nhw ymlaen i greu plât iachus. Gallwch weld lluniau o'r gweithgareddau ar gyfrif Twitter yr ysgol. (@ygcwmbran)

Am fwy o wybodaeth ar y plât bwyta'n iachus, ewch i wefan y GIG isod.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr