Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

7th June 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Wythnos Bwyta'n Iach Torfaen **

Band yr wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw 'Yr Oria'. Byddwn yn gwrando ar 'Messiah' a 'Tair gwaith'.

Patrwm iaith yr wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Ydych chi'n hoffi ....?' Ydyn / Nac ydyn. (Nac ydyn)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth 'Disgybl yr wythnos' - 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 2. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

Gwasanaeth derbyn a'r meithrin:
Plant Meithrin y bore a phlant dosbarth Miss Thomas - 10 o’r gloch y bore.
Plant Meithrin y prynhawn a phlant dosbarth Miss Wilson - 2 o’r gloch y prynhawn.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
** Prynhawn Lles: Ein thema ar gyfer y yw wythnos hon yw Bwyta'n iach. **
Bydd Alison Dally yn cynnal gweithdai bwyta'n iach gyda disgyblion blwydydn 5 heddiw.
Gwasanaeth bwyta'n iach i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 gyda Chwmni 'Kiddy Cook'.
Gweithdai coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 gyda Chwmni 'Kiddy Cook'.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Gweithdy flogio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 gyda Menter Iaith. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

** Mabolgampau'r Cyfnod Sylfaen: Bydd y Mabolgampau yn cael eu cynnal yn y bore rhwng 09:30 ac 11:45 ac yn y prynhawn rhwng 1:30 a 2:30. **
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad chwaraeon ac yn lliw eu timoedd. Mae croeso i rieni / gwarchodwyr ymuno gyda ni am y diwrnod.
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod gan eich plant digon o ddŵr, eli haul a het haul ar y dydd.
(Bydd aelodau'r PTA yn darparu lluniaeth ar y dydd.)

Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn derbyn gweithdy rhyngweithiol Gwyddoniaeth a Mathemateg am germau gan awdur y llyfr 'Alice Dent and the incredible germs', Gwen Lowe.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Gwers beicio diogel disgyblion blwyddyn 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

** Mabolgampau: Bydd y Mabolgampau yn cael eu cynnal yn y bore rhwng 09:30 ac 11:45 ac yn y prynhawn rhwng 1:20 a 3:15) **
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad chwaraeon ac yn lliw eu timoedd. Mae croeso i rieni / gwarchodwyr ymuno gyda ni am y diwrnod.
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod gan eich plant digon o ddŵr, eli haul a het haul ar y dydd.
(Bydd aelodau'r PTA yn darparu lluniaeth ar y dydd.)

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
** Bydd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd. (50c yr un) **

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr