Gwobr efydd heriau natur y RSPB:

Gwobr efydd heriau natur y RSPB:

6th June 2018

Rydym wedi derbyn y wobr efydd heddiw.

Roeddem ni'n hapus iawn i dderbyn y wobr hon fel cydnabyddiaeth am yr holl bethau rydyn ni'n eu gwneud ar gyfer natur yn yr ysgol. Er mwyn derbyn y dystysgrif efydd, roedd rhaid cwblhau chwe her natur sef:

Cartrefi ar gyfer trychfilod
Bwyd a diod ar gyfer natur
Cartrefi ar gyfer adar
Dewin tywydd
Saffari trychfilod
Edrych yn agosach ar natur

Roedd yr ysgol gyfan hefyd yn rhan o'r Gwyliadwraeth adar ym mis Chwefror.

Mae pob disgybl yn yr ysgol wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r disgyblion, y staff ac aelodau'r Eco-bwyllgor am eu holl waith caled. Mae'r gwaith yn dal i barhau wrth i ni geisio denu mwy o natur i'n gardd ni ac wrth i ni barhau i blannu blodau a darparu cartrefi, bwyd a diod ar gyfer gwahanol adar ac anifeiliaid.

Yn ystod y mis hwn, rydym yn cymryd rhan ym mhrosiect #30DyddGwyllt yr Ymddiriedolaeth Natur ac rydym yn annog y disgyblion i gymryd rhan adref hefyd. Am fwy o wybodaeth am yr her hon, gweler yr wefan isod.

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr