Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

31st May 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Band yr wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw 'Gwilym'. Byddwn yn gwrando ar 'Cwin' a 'Llechan lân'.

Patrwm iaith yr wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Wyt ti'n hoffi ....?' Ydw / Nac ydw. (unigol)

** Cost arian ffrwyth ar gyfer yr hanner tymor hwn yw £7. **

Dydd Llun:

Bydd y disgyblion yn ail ddechrau'n yr ysgol heddiw.

Dydd Mawrth:

Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 2. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

** Bydd disgyblion blwyddyn 3 yn mynd i Gwmcarn heddiw. Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio gyda nhw os gwelwch yn dda. **
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
** Prynhawn Lles: Ein thema ar gyfer y pythefnos hwn yw Germau / Golchi dwylo. **
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Gweithdy flogio ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 gyda Menter Iaith. (3:30 - 4:30)
Cyfarfod C.Rh.A yn llyfrgell yr ysgol am 5 o'r gloch. Croeso cynnes i bawb.

Dydd Iau:

** Bydd disgyblion blwyddyn 4 yn mynd i Gwmcarn heddiw. Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a dod â phecyn cinio gyda nhw os gwelwch yn dda. **
Dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:

** Gall plant dosbarth Miss Hughes wisgo gwisg anffurfiol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mai. **
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
** Bydd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd. (50c yr un) **

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr