Wythnos Eco Ysgol Gymraeg Cwmbrân, 2018:

Wythnos Eco Ysgol Gymraeg Cwmbrân, 2018:

21st May 2018

Mae ein hwythnos Eco wedi dechrau heddiw.

Yn ystod yr wythnos, bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol wedi'u selio ar yr amgylchedd. Byddwn yn edrych yn bennaf ar lygredd plastig, ailgylchu, effaith llygredd a natur. Bydd bob dosbarth yn cael sesiwn yng ngardd yr ysgol a bydd pob dosbarth yn cael sesiwn lle byddant yn tacluso o gwmpas yr ysgol a'r ardal leol.

Mae nifer o asiantaethau gwahanol yn dod i'r ysgol yn ystod yr wythnos i gynnal gweithdai amrywiol gyda'r disgyblion. Rydym hefyd yn annog y disgyblion i gerdded i'r ysgol lle bo'n bosib.

Cofiwch edrych ar gyfrif Twitter yr ysgol (@ygcwmbran) ar gyfer lluniau o'r gweithgareddau gwahanol.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr