Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

17th May 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Wythnos Eco: Rydym yn cynnal wythnos Eco yn yr ysgol yr wythnos hon. Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol yn seiliedig ar yr amgylchedd. Gweler isod am fwy o fanylion. **

** Wythnos cerdded i'r ysgol: Mae Cyngor Torfaen yn annog y disgyblion i gerdded i'r ysgol lle bo'n bosib. **

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw Llew Davies.
Byddwn yn gwrando ar 'Galli di bwyso' a 'Ti'n graig i mi'.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Does dim ... gyda fi'.

Dydd Llun:
Gwasanaeth ysgol gyfan er mwyn cyflwyno ein hwythnos Eco. Bydd Dan y can yn bresennol yn y gwasanaeth hefyd.
Bydd Theresa Pearce o Ailgylchu Torfaen yn cynnal gweithdy gyda phlant blwyddyn 2 bore 'ma.

Dydd Mawrth:

Bydd Julia James o Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn cynnal gweithdy natur gyda disgyblion blwyddyn 5 bore 'ma.
Bydd disgyblion blwyddyn 5 hefyd yn derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf heddiw.
Bydd y cynghorydd Fiona Cross yn dod i gynnal gweithdy ailgylchu gyda disgyblion dosbarthiadau Miss Passmore a Mr Bridson.
Bydd Llinos Mair yn dod i gynnal gweithdy ailgylchu yn seiliedig ar lyfrau newydd gyda dosbarth blwyddyn 2 Miss Hughes.
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

** Diwrnod Agored: Gallwch ddod i'r ysgol i weld gwaith eich plentyn yn ystod yr amseroedd canlynol: 9.20am - 10.20am / 10.50am - 11.30am / 1.30pm - 2.10pm **
Bydd Richard Evans yn cynnal gweithdy adar gyda dosbarth Mr Bridson a bydd y disgyblion yn creu tai adar yn ystod y prynhawn er mwyn eu gosod yng ngardd yr ysgol.
Bydd Mrs Touhig yn cynnal gweithdy ailgylchu gyda phob dosbarth yn y Cyfnod Sylfaen heddiw.
Bydd Anvil Forge (Arbenigwr haearn) yn trafod syniadau am ddatblygu cylchdro'r ysgol gyda'r Eco-bwyllgor bore 'ma. (09:30 - 10:30)
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)
Gweithdy flogio ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 gyda Menter Iaith. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

** Rags 2 Riches: Byddwn yn casglu dillad y gellid eu hailddefnyddio ar gyfer Rags 2 Riches heddiw. **
Bydd Ceri Williams, Swyddog Cyllid Ynni Ysgolion, yn trafod syniadau ynni gyda disgyblion blwyddyn 5 bore 'ma.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i bob dosbarth er mwyn rhoi cyflwyniad a gwneud gwaith ar blastig un tro.
Bydd Sea Quest yn cynnal gweithdy am blastig yn y môr gyda disgyblion blwyddyn 3 a dosbarth Miss Wena Williams heddiw.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:
** Diwrnod gwisg anffurfiol: Rydym yn annog y disgyblion i wisgo gwyrdd i'r ysgol heddiw er mwyn dathlu diwedd ein hwythnos Eco. Rydym yn gofyn am gyfraniad ariannol; bydd hanner yr arian yn mynd tuag at ddatlbygu'r ardd a'r hanner arall i'r RSPB.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish.
Rhwng 11:30 a 12 heddiw, bydd sawl dosbarth yn cysylltu gydag ysgolion eraill trwy HWB er mwyn rhannu syniadau a gwybodaeth am blastig un tro.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
** Bydd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd. (50c yr un) **

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr