Cystadleuaeth Genedlaethol Pêl-droed yr Urdd yn Aberystwyth:

Cystadleuaeth Genedlaethol Pêl-droed yr Urdd yn Aberystwyth:

13th May 2018

Da iawn i'r tîm pêl-droed merched aeth i Aberystwyth ddoe.

Teithiodd y tîm pêl-droed merched a bws llan cefnogwyr i Aberystwyth ar gyfer rownd terfynol cystadleuaeth yr Urdd ddoe. Roedd hi'n ddechreuad cynnar iawn (06:30) ac roedd tan y merched dair gem bêl-droed yno.

Chwaraeodd y merched yn wych a rhoddon nhw 100% mewn i'r gemau. Roedden ni'n falch iawn ohonynt i gyd ac roedd hi'n hyfryd mynd am dro a chael hufen iâ ar ôl y gystadleuaeth.

Diolch yn fawr hefyd i Nick o dîm pêl-droed Coed Eva Football, Callum a Dan o Glwb pêl-droed Casnewydd yn y gymuned a Mr Bridson am eu holl waith gyda'r hyfforddi. Diolch hefyd i'r holl gefnogwyr ddaeth i Aberystwyth gyda ni; roedd hi'n ddiwrnod hyfryd.

Diolch a da iawn.


^yn ôl i'r brif restr