Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

10th May 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw Yr Angen.
Byddwn yn gwrando ar 'Boi bach sgint' a 'Fel na fydd e'.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Fy hoff ... yw ....'

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos. (09:10 yn neuadd yr ysgol)
Disgyblion blwyddyn 4 i lyfrgell Cwmbrân.
(Bydd y disgyblion yn cerdded i'r llyfrgell er mwyn cofrestru a chael carden llyfrgell.)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
** Prynhawn Lles: Ein thema ar gyfer y pythefnos hwn yw Gwerthoedd. **
Sesiwn hyfforddi pêl-droed ar gyfer disgyblion dosbarth Miss Passmore.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)
Gweithdy flogio ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 gyda Menter Iaith. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i wylio 'Adenydd i Hedfan' yn Theatr y Congress bore 'ma.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)#
** Bydd y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn gwerthu hufen iâ ar yr iard ar ddiwedd y dydd. (50c yr un) **

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr