Ein Hwythnos-Eco:

Ein Hwythnos-Eco:

10th May 2018

Byddwn yn cynnal wythnos Eco yn yr ysgol rhwng Mai 21fed - 25ain.

Mae aelodau'r Eco-bwyllgor wedi bod yn brysur yn rhannu syniadau ac yn cynllunio ar gyfer ein hwythnos-Eco sydd yn digwydd yr wythnos ar ôl nesaf.

Ein prif ffocws fydd llygredd plastig, defnydd o ddŵr, ailgylchu a natur. Bydd y dosbarthiadau gwahanol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a bydd llythyr yn dod adref gyda'r disgyblion ddydd Llun yn amlinellu'r manylion.

Rydym yn edrych ymlaen at yr wythnos a gobeithiwn yn fawr y bydd hi'n wythnos lwyddiannus. Cadwch lygad ar Twitter (@ygcwmbran) er mwyn gweld lluniau o'r gwahanol bethau. (Gellir gweld y lluniau hyn ar 'Hafan' y wefan hon yn ogystal.)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr