Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

3rd May 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Profion Cenedlaethol i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 i 6. Bydd y profion yn gorffen i'r disgyblion ar ddydd Mercher, Mai'r 9fed.)

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw Kizzy Crawford.
Byddwn yn gwrando ar 'Enfys yn y glaw' a 'Tyfu lan'.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Faint o'r gloch yw hi?'

Dydd Llun:
Gŵyl y Banc: Bydd yr ysgol ar gau heddiw.

Dydd Mawrth:

** Prawf rhesymu Mathemateg ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 i 6. **
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

** Prawf gweithdrefnol Mathemateg ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 i 6. **
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
** Dim Clwb yr Urdd gan fod hyfforddiant ar gyfer staff. **
Gweithdy flogio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 gyda Menter Iaith. (3:30 - 4:30) Disgyblion blwyddyn 5.

Dydd Iau:

Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Ymarfer pêl-droed i'r merched sy'n chwarae ddydd Sadwrn. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Dydd Sadwrn:
Bydd y tîm pêl-droed merched yn cynrychioli Gwent yn rownd genedlaethol yr Urdd yn Aberystwyth. Pob lwc iddynt i gyd. (Bydd y bws yn gadael yr ysgol am 06:30 y bore!)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr