Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

26th April 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Wythnos y Profion Cenedlaethol i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 i 6. Gweler yr amserlen yn y rhan 'Cyhoeddiadau' o'r wefan.)

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw Fleur de Lys.
Byddwn yn gwrando ar 'Ennill' a 'Paent'.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw'r defnydd o'r ferf 'ais' e.e. ' Cerddais i .... ' / 'Rhedais i .....' ayyb.

Dydd Mawrth:

Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (3:30 - 4:30)

Dydd Mercher:

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Sesiwn hyfforddi pêl-droed gyda Chlwb pêl-droed Casnewydd. (1pm)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
** Prynhawn Lles - byddwn yn dechrau ein prynhawniau lles heddiw. Pwnc y pythefnos: Hawliau plant. **
(Am fwy o wybodaeth am hawliau plant, gweler y wefan isod)
Gweithdy flogio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 gyda Menter Iaith. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gweithdai Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
** Does dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 heddiw achos y profion. **
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:

Dim gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish achos y profion.
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr