Prynhawn Agored Cyfnod Allweddol 2:

Prynhawn Agored Cyfnod Allweddol 2:

28th March 2018

Diolch yn fawr i'r holl rieni a gwarchodwyr ddaeth i'r prynhawn agored ddoe.

Cafwyd prynhawn agored yn yr ysgol ddoe er mwyn edrych ar rai o'r strategaethau llythrennedd a rhifedd gwahanol sy'n cael eu defnyddio yn yr ysgol. Roedd gorsafoedd gwahanol yn y neuadd, i gyd yn cynnig syniadau a chefnogaeth i rieni ar sut rydyn ni'n addysgu iaith a Mathemateg ar draws Cyfnod Allweddol 2.

Roedd nifer fawr o rieni yn bresennol ac roedd yn hyfryd gweld cymaint yn cymryd rhan yn y gweithgareddau amrywiol.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr