Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

15th March 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Wythnos Sport Relief: Bydd y disgyblion yn gwneud y filltir ddyddiol ac yn cymryd rhan yn y Danceathon noddedig ddydd Gwener. **

Byddwn yn casglu wyau Pasg ar gyfer y banc bwyd yn ogystal. (Erbyn dydd Llun, Mawrth 26ain.)

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw Bromas.
Byddwn yn gwrando ar 'Lle ma' dy galon?' a 'Zoom' yn yr ysgol.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw'r treiglad trwynol ar ôl 'yn' e.e. 'yng Nghwmbrân'.

Dydd Mawrth:

Bydd disgyblion blwyddyn 4 yn mynd ar daith i Gwmcarn heddiw. ** Wedi'i ohirio - byddwn yn ail drefnu cyn hir. **
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i arddangosfa y GIG prynhawn 'ma.
Prynhawn agored ar gyfer rhieni / gwarchodwyr y Cyfnod Sylfaen - gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Dim ymarfer côr llawn heno, dim ond y parti unsain a'r parti deulais tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (3:30 - 4:30)
Cyfarfod PTA (3:30 yn llyfrgell yr ysgol)

Dydd Mercher:

Bydd disgyblion blwyddyn 3 yn mynd ar daith i Gwmcarn heddiw. ** Wedi'i ohirio - byddwn yn ail drefnu cyn hir. **
Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd 'Western Power' yn cynnal gweithdai gyda disgyblion o flynyddoedd 4 a 5 heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Ymarfer Ukulele ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 yn ystod amser cinio.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn treulio'r diwrnod yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a dod ag esgidiau ymarfer gyda nhw os gwelwch yn dda. Mae opsiwn gyda nhw o ddod â phecyn cinio neu dalu am ginio ysgol yno. £2.30
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:

*Dydd Gwyl Dewi / Eisteddfod ysgol: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad traddodiadol, cit rygbi a phêl-droed Cymru ayyb heddiw os ydynt yn dymuno.*
Gweithdai Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Eisteddfod ddawns ar gyfer y rhai sy'n cystadlu gyda'r dawnsio disgo. (Bydd llythyr yn dod adref heno.)
Ymarfer yr ymgom ar ôl ysgol tan 4:30. (Mae'r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)

Dydd Gwener:

*Danceathon noddedig: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo yn eu dillad chwaraeon heddiw. Rydym hefyd yn eu hannog i wisgo coch i gefnogi Cymru yn Gemau'r Gymanwlad.*
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Dydd Sadwrn:
Eisteddfod Sir yr Urdd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
(Byddwn yn danfon llythyr adref gyda'r trefniadau pan fyddwn yn derbyn y manylion o'r Urdd.)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr