Ymweliad gan Ynyr o 'Brigyn':

Ymweliad gan Ynyr o 'Brigyn':

15th March 2018

Rydym yn ddigon ffodus i gael Ynyr o'r grwp Brigyn yn yr ysgol heddiw.

Fel gwobr ar gyfer y presenoldeb mwyaf ym mis Ionawr, daeth Ynyr i gynnal gweithdai cyfansoddi gyda disgyblion blwyddyn 3 heddiw. Dechreuodd y diwrnod gyda gwasanaeth ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Cafodd y disgyblion gyfle i glywed Ynyr yn perfformio a chafon nhw glywed ychydig am y Siarter Iaith.

Aeth Ynyr ati wedyn i weithio gyda'r ddau ddosbarth blwyddyn 3 a chafodd pob disgybl gryno ddisg fel rhodd.

Diolch yn fawr i Ynyr.


^yn ôl i'r brif restr