Wythnos Sport Relief:

Wythnos Sport Relief:

14th March 2018

Cyflwynodd aelodau'r Cyngor Ysgol eu syniadau yn y gwasanaeth bore 'ma.

Byddwn yn cymryd rhan mewn wythnos ar gyfer Sport Relief wythnos nesaf. Mae'r Cyngor Ysgol hefyd wedi penderfynu ein bod ni am gyfrannu wyau Pasg i'r Banc Bwyd sy'n cael ei drefnu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth ar Wesley Street.

Dyma gopi o'r llythyr gan y Cyngor Ysgol:

Annwyl Rhiant / Warchodwr

Fel cyngor ysgol rydyn ni wedi penderfynu rhoi wyau pasg i’r banc bwyd. Gofynnwn yn garedig i chi ddod ag wy Pasg i’r ysgol erbyn dydd Llun y 26ain o Fawrth. Os nad ydych yn gallu dod â wy Pasg, gofynnwn yn garedig am gyfraniad ariannol os gwelwch yn dda. Cofiwch am ein diwrnod gwisg ymarfer corff (coch os yn bosib i gefnogi #cymrycoch a’r athletwyr sy’n ein cynrychioli yng ngemau’r gymanwlad yn Awstralia) ar ddydd Gwener y 23ain o Fawrth ar gyfer ein ‘danceathon’ ar gyfer ‘Sport Relief’.

Diolch,

Megan, Jude a Harri ar rhan y Cyngor Ysgol.

Diolch iddyn nhw gyd am eu gwaith caled.


^yn ôl i'r brif restr