Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

8th March 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos ar gyfer yr wythnos hon yw Serol Serol.
Byddwn yn gwrando ar 'Cadwyni' and 'Aelwyd' yn yr ysgol.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ein patrwm iaith ar gyfer yr wythnos hon yw 'Faint o ..... sydd gyda ti?'

Dydd Llun:

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i 'Crucial Crew' yng nghanolfan y T.A. yng Nghwmbrân heddiw.
(Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol a chot law os gwelwch yn dda.)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos. (09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (3:30 - 4:30)
Bydd cyfarfod ar gyfer rhieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 6 sy'n mynd i Wynllyw flwyddyn nesaf.
(6 o'r gloch yn neuadd ein hysgol ni.)

Dydd Mercher:

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Bydd cynrychiolydd o wasanaeth tân Cwmbrân yn dod i weithio gyda disgyblion blwyddyn 5 heddiw.
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Ymarfer Ukulele ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 yn ystod amser cinio.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:

Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo tan 4:30. (Mae'r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)
Ymarfer yr ymgom ar ôl ysgol tan 4:30. (Mae'r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr