Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

1st March 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Dydd Llun:

** Diwrnod y Llyfr: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol fel cymeriad o lyfr os ydynt yn dymuno. **
Noson rieni.

Dydd Mawrth:

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)

Noson rieni.
* Does dim ymarfer côr na chlwb gwnïo ar ôl ysgol gan fod noson rieni. *

Dydd Mercher:

Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Ymarfer Ukulele ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 yn ystod amser cinio.
Ymarfer parti llefaru ar ôl ysgol tan 4:30. (Mae'r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:

Gweithdy Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo tan 4:30. (Mae'r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)
Ymarfer yr ymgom ar ôl ysgol tan 4:30. (Mae'r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)
Clwb Clebran i’r rheiny sydd am ymarfer eu Cymraeg. (3:30-4:30)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Dydd Sadwrn:

Eisteddfod Gylch yr Urdd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Byddwn yn danfon llythyr adref gyda'r manylion ar ôl i ni dderbyn yr wybodaeth o'r Urdd.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr