Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

25th February 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Cost ffrwyth ar gyfer yr hanner tymor hwn yw £5.

Dydd Llun:

**Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i bawb heddiw. **
Bydd cynrychiolwyr o Fron Afon yn dod i siarad gyda disgyblion dosbarth Miss Williams heddiw.

Dydd Mawrth:

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb Gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)

Dydd Mercher:

Cystadleuaeth teipio ar gyfer disgyblion blwyddyn 1 i flwyddyn 6.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:

**Dydd Gŵyl Dewi: Gall y disgyblion wisgo gwisg draddodiadol / cit rygbi / pêl-droed ayyb i'r ysgol heddiw. **
Gweithdy Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Williams.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo tan 4:30. (Mae'r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)

Dydd Gwener:

Bydd Asiantaeth Hylendid Bwyd yn cynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 5 heddiw.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr