Gweithdai Mr Phormula:

Gweithdai Mr Phormula:

14th February 2018

Daeth Mr Phormula i weithio gyda phlant y Cyfnod Sylfaen heddiw.

Roedd plant y Cyfnod Sylfaen wrth eu boddau yn y gweithdai heddiw a daeth pawb ynghyd ar ddiwedd y dydd i ddysgu mwy am 'bît bocsio' a sut mae Mr Phormula yn rhoi ei waith at ei gilydd. Roedd un neges yn glir iawn ganddo sef pwysigrwydd dwyieithrwydd ac roedd yn sôn am sut mae'r iaith Gymraeg wedi dylanwadu ar ei fywyd a'i yrfa.

Diolch yn fawr - mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn edrych ymlaen at eu gweithdai yfory.


^yn ôl i'r brif restr