Gweithdy Celf blynyddoedd 3 a 4:

Gweithdy Celf blynyddoedd 3 a 4:

11th February 2018

Mwynhaodd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 eu gweithdy celf gyda chwmni CreaSion ddydd Gwener.

I gyd-fynd gyda Dydd Miwsig Cymru, cafodd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 weithdy celf yn seiliedig ar gerddoriaeth ac offerynnau cerddorol. Cafodd pob disgybl gyfle i ddyfeisio offeryn newydd eu hunain a rhoddodd Sion y cyfan at ei gilydd mewn darn o gelf.

Diolch i'r disgyblion am weithio mor galed yn ystod y diwrnod.


^yn ôl i'r brif restr