Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

9th February 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y defnydd cywir o 'Roeddwn i' a 'Doeddwn i ddim' ....

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos yw Mr Phormula. Byddwn yn gwrando ar 'Curiadau trwm' a 'Cwestiynau' yn y dosbarthiadau.

Dydd Llun:
Bydd Miss James o Ysgol Gyfun Gwynllyw yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 am 11:15 bore 'ma.
Ymarfer cor yn ystod amser cinio.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr wythnos. (09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb Gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)

Dydd Mercher:
Gwasanaeth gan 'Dogs Trust' a gweithdy ar gyfer disgyblion blwyddyn 3.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:
** Taith blwyddyn 4 i Ganolfan yr Urdd, Caerdydd. Bydd y disgyblion yn gadael am 09:30.**
Gweithdy Mr Phormula ar gyfer disgyblion CA2.
Gweithdy Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Dim gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths Jones.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo tan 4:30. (Mae'r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Byddwn yn gorffen ar gyfer wythnos o hanner tymor heddiw.

Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Chwefror 26ain.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr