Diwrnod defnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel 2018:

Diwrnod defnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel 2018:

6th February 2018

Rydym yn falch i fod yn rhan o ddiwrnod defnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel heddiw.

Dechreuodd y diwrnod gyda gwasanaeth ar ddiogelwch ar y we gyda chymorth yr Arweinwyr Digidol. Dysgodd y disgyblion am fanteision ac anfanteision y we a thechnoleg yn ein cymdeithas heddiw. Dysgon nhw hefyd am rai o beryglon y we a'r hyn y dylent ei wneud os oes rhywbeth yn digwydd.

Prynhawn 'mae, aeth pob dosbarth ati i ddysgu mwy am ddiogelwch ar y we ac roedd amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y disgyblion.

Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdy diogelwch ar y we gyda disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 bore 'fory am 9:30.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am ddiogelwch ar y we, ewch i'r wefan isod.
Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr