Cogurdd:

Cogurdd:

5th February 2018

Da iawn i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 gymerodd ran yn 'Cogurdd' heddiw.

Cymerodd 13 disgybl ran yng nghystadleuaeth goginio'r Urdd, COGURDD, heddiw. Cawsant i gyd rysáit i'w dilyn a'i hymarfer adref a daeth y disgyblion â'r cynhwysion a'r cyfarpar mewn i'r ysgol ar gyfer y gystadleuaeth heddiw. Paratôdd y disgyblion i gyd yn dda iawn a chynhyrchon nhw gyd bryd o fwyd gwych; rydym yn falch iawn ohonyn nhw gyd.

Cafodd y gwaith i gyd ei feirniadu a'r disgyblion fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli'r disgyblion yn y rownd nesaf yw Ieuan Griffin a Ruby Simmonds. Llongyfarchiadau i bawb. Bydd angen i bob un baratoi'r un pryd o fwyd a phryd ychwanegol ar gyfer y rownd nesaf yn erbyn ysgolion eraill yr ardal.

Da iawn i bawb.


^yn ôl i'r brif restr