Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

1st February 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y treiglad meddal ar ol 'i' e.e. i Gwmbrân.

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos yw Bryn Fon. Byddwn yn gwrando ar 'Un funud fach' ac 'Yn yr ardd' yn yr ysgol.

Dydd Llun:
* COGURDD: Bydd disgyblion CA2 yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cogurdd yr Urdd heddiw. Bydd angen iddynt goginio un pryd o fwyd er mwyn ennill eu lle yn y rownd nesaf. Bydd y ddau enillydd yn mynd ymlaen i gynrychioli'r ysgol yn y cylch. *
Bydd BOOM Cymru yn cynnal gweithdy 'flogio' gyda'r Arweinwyr Digidol bore 'ma.

Dydd Mawrth:
* Diwrnod Diogelwch ar y we: Bydd y disgyblion yn dysgu mwy am ddiogelwch ar y we heddiw a byddant yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth sydd wedi'i harwain gan yr Arweinwyr Digidol. *
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos. 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb Gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)

Dydd Mercher:
Gweithy Diogelwch ar y we ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 gyda PC Thomas.
Prawf llygaid ar gyfer plant y derbyn heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:
Bydd disgyblion CA2 yn dysgu am daith a datblygiad yr iaith Gymraeg heddiw mewn sioe gan gwmni Mewn Cymeriad.
Gweithdy Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths Jones.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:
*Dydd Miwsig Cymru: Byddwn yn dathlu cerddoriaeth Cymraeg yn yr ysgol heddiw.*
Gweithdy Celf Blynyddoedd 3 a 4: Bydd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn cymryd rhan mewn gweithdy celf heddiw, yn seiliedig ar gerddoriaeth Cymru.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Mrs Dalgleish. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr