Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

25th January 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:
"Pan oeddwn i ...."

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos yw Alun Tan Lan. Byddwn yn gwrando ar 'Afon' a 'Cân Beic.'

Dydd Llun:
Gweithdy Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion CA2.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos. 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb Gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)

Dydd Mercher:
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:
**Gwisgwch goch i Felindre: Byddwn yn gwisgo coch heddiw (gwisg anffurfiol) er mwyn casglu arian ar gyfer Ysbyty Cancr Felindre. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 os gwelwch yn dda.
Gweithdy Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths Jones.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Cyngerdd ffidil i ddosbarth Miss Hughes. (2:30 - 3:10)
*Clwb Clebran rhwng 3:30 a 4:30 i rieni / gwarchodwyr sydd moyn ymarfer eu Cymraeg mewn sefyllfa anffurfiol.*
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:
Gweithdy Celf Blynyddoedd 5 a 6: Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn cymryd rhan mewn gweithdy celf heddiw, yn seiliedig ar yr ardal leol. Bydd disgyblion chweched ddosbarth Ysgol Gyfun Gwynllyw yn dod i helpu gyda'r gweithdy yn ogystal.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Dydd Sadwrn:
Pacio bagiau Y Gymdeithas Rieni ac Athrawon ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
10 - 2 yn ASDA, Cwmbrân.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr