Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

18th January 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y defnydd cywir o 'cer ac ewch' a 'dere a dewch'.

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos yw 'Brigyn'. Byddwn yn gwrando ar 'Fflam' a 'Ffenest'.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos. 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb Gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)

Dydd Mercher:
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Gweithdy Gwyddoniaeth i ddisgyblion blwyddyn 6.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:
Gwyliadwriaeth adar ysgolion: Bydd bob disgybl yn cymryd rhan yn y wyliadwriaeth trwy gynnal arolwg o'r gwahanol adar sydd ar safle'r ysgol.
Gweithdy Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths Jones.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
*Disgo Santes Dwynwen. 6 o'r gloch yn neuadd yr ysgol. Croeso cynnes i bawb. *

Dydd Gwener:
Gwyliadwriaeth adar ysgolion: Bydd bob disgybl yn cymryd rhan yn y wyliadwriaeth trwy gynnal arolwg o'r gwahanol adar sydd ar safle'r ysgol.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr