Prosiect Codio:

Prosiect Codio:

18th January 2018

Aeth yr Arweinwyr Digidol i Ysgol Panteg heddiw.

Mwynhaodd yr Arweinwyr Digidol o Ysgol Panteg, Bryn Onnen a Chwmbrân yr ail ddiwrnod o gydweithio heddiw. Ymunodd Mr Jones, athro TGCh o Ysgol Gyfun Gwynllyw, yn y gweithdy yn ogystal. Rhannodd y disgyblion eu syniadau ar gyfer codio a dechreuon nhw weithio ar eu prosiectau ar Scratch 2 ar gyfer cystadleuaeth codio.

Bydd ein cyfarfod nesaf yn Ysgol Bryn Onnen ar ôl hanner tymor.

Da iawn i bawb.


^yn ôl i'r brif restr