Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

12th January 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Bydd clybiau ar ôl ysgol yn dechrau yr wythnos hon **

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Ga’ i .... ?

Band yr Wythnos:
Band yr wythnos yw Catrin Herbert. Byddwn yn gwrando ar ‘Dala'n sownd' a 'Disgyn amdanat ti'.

Dydd Llun:
Cyfarfod Cymdeithas Rhieni ac Athrawon. (3:30 yn y llyfrgell. Croeso cynnes i bawb.)
Hyfforddiant codio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 a’r Arweinwyr Digidol.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos. 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 3. (12:30 - 1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Clwb Gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)

Dydd Mercher:
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Gweithdy Gwyddoniaeth i ddisgyblion blwyddyn 6.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio. (12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson.)
Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:
Gweithdy Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths Jones.
Côr Chwythbrennau ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 rhwng 12:30 ac 1.
Clwb pêl-droed ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Gosod Farnais Fflworid ar gyfer plant Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1.

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes. (09:10 - 10:10)
Clwb Codio yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
Diwrnod crefyddau’r byd: Bydd y disgyblion yn dysgu am grefyddau gwahanol.

Dydd Sadwrn:
Gala Nofio Cenedlaethol yr Urdd: Pob lwc i’r disgyblion sy’n cynrychioli Gwent yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd.


^yn ôl i'r brif restr