Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

7th January 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Blwyddyn Newydd Dda i bawb!

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Wythnos Menter a Busnes: Gan ein bod ni wedi colli rhai diwrnodau o ganlyniad i'r eira cyn y Nadolig, byddwn yn parhau gyda'r gweithgareddau Menter a Busnes yr wythnos hon.

Arian ffrwyth:
Os ydych chi eisiau i’ch plentyn dderbyn ffrwyth yn ddyddiol, y gost ar gyfer yr hanner tymor hwn yw £6. Gofynnwn yn garedig i chi ddanfon yr arian mewn i’r ysgol mewn amlen wedi’i labelu’n glir ag enw eich plentyn. Ni ddylid talu’r arian trwy Arlwyo Torfaen. Diolch.

Dydd Llun:
Bydd yr ysgol ar gau heddiw. Bydd y staff yn mynychu diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw heddiw.

Dydd Mawrth:
Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i'r disgyblion heddiw.

Cyfarfod C.Rh.A:
3:30 yn llyfrgell yr ysgol. Croeso cynnes i bawb.
(** Wedi'i ohirio - bydd hwn yn digwydd nos Lun nesaf am 3:30. **)

Dydd Mercher:
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent. 09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths Jones.
Sesiynau Ffa La La ar gyfer y feithrin, y dosbarth derbyn a phlant blwyddyn 1.

Dydd Gwener:
Gall disgyblion dosbarth Miss Broad ddod i'r ysgol mewn gwisg anffurfiol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Rhagfyr.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr