Taith Blwyddyn 4 i Gaerdydd:

Taith Blwyddyn 4 i Gaerdydd:

22nd December 2017

Mae’r Urdd yn trefnu taith ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 i Gaerdydd ar ddydd Iau, Chwefror 15eg.

Bydd y daith hon yn daith dros nos a bydd y disgyblion yn aros yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Does dim llawer o fanylion gyda ni ar hyn o bryd ond, fel arfer, mae’r disgyblion yn mynd ar daith i adeilad y Cynulliad, o gwmpas Bae Caerdydd, i’r sinema ayyb. Gan fod amser yma o’r flwyddyn yn un brysur a drud iawn, rydym wedi penderfynu rhoi’r wybodaeth i chi nawr fel eich bod â pheth gwybodaeth am y daith yn bell cyn iddo gyrraedd.

Cost y daith fydd tua £75 i aelodau o’r Urdd ac £83.50 i’r rheiny sydd ddim yn aelodau o’r Urdd. Bydd hwn yn cynnwys bwyd, llety, costau teithio a gweithgareddau. (Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y gweithgareddau pan dderbyniwn ni’r wybodaeth o’r Urdd.)

Gofynnwn yn garedig am flaendal o £20 erbyn dydd Gwener, Ionawr 12fed. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu rhoi’r blaendal hwn yn ôl os ydy eich plentyn yn penderfynu peidio mynd.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi am y daith, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol.
Diolch, Miss Passmore.


^yn ôl i'r brif restr