Gweithdy Gwyddoniaeth Blwyddyn 6:

Gweithdy Gwyddoniaeth Blwyddyn 6:

18th December 2017

Fel diweddglo i'n cywaith Gwyddoniaeth, aeth disgyblion blwyddyn 6 i Brifysgol Caerdydd heddiw.

Yn ystod y tymor, mae disgyblion blwyddyn 6 wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect Gwyddoniaeth ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd. Roedd y prynhawn yn llawn gweithgareddau yn ymwneud â Gwyddoniaeth.

I ddechrau, cwrddon nhw â gwyddonwyr gwahanol a chlywodd y disgyblion am hanes y gwyddonwyr gwahanol a pham eu bod bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd yr ail weithgaredd i gyd yn ymwneud â gemau am yr ymennydd a dysgu am sut mae'n gweithio.

Y trydydd gweithgaredd oedd gwaith ar edrych ar ôl ein dannedd a dysgu am facteria gwahanol.

Roedd yn brynhawn llwyddiannus iawn - diolch i Brifysgol Caerdydd am eu holl waith trefnu.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr