Casgliad i'r banc bwyd:

Casgliad i'r banc bwyd:

17th December 2017

Diolch yn fawr iawn i bawb am eich rhoddion hael tuag at ein casgliad i'r banc bwyd lleol.

Ddydd Gwener, cawsom ddiwrnod siwmper / addurn Nadolig lle gofynnwyd i'r disgyblion gyfrannu nail ai tuniau/bwyd neu nwyddau ymolchi ar gyfer y banc bwyd lleol neu gyfraniad ariannol tuag at Achub y Plant.

Doedden ni methu credu faint o bethau oedd wedi eu cyfrannu a, gyda'r holl bethau, roeddem wedi gallu ffurfio 56 bag o nwyddau ymolchi oedd i gyd yn cynnwys:

'Shampoo' a 'conditioner'
'Shower gel'
Brwsh dannedd
Past dannedd
'Deodorant'
Rolyn ty bach
'Wipes'

Roedd eitemau eraill wedi eu cynnwys yn ogystal megis clwtyn, brwsh gwallt, menig a hosanau. Danfonwyd swm enfawr o duniau a bwydydd hefyd.

Gweithiodd y prif swyddogion mor galed i gasglu a threfnu'r holl nwyddau a daeth aelod o Eglwys Byddin yr Iachawdwriaeth i gasglu popeth ar ddiwedd y dydd ddydd Gwener. Bydd y casgliad yn mynd yn bell i helpu teuluoedd lleol dros gyfnod y Nadolig.

Diolch yn fawr iawn i bawb.


^yn ôl i'r brif restr